Funding application deadline:
16 Oct 2026
To apply for this scholarship you must submit your application on the scholarship provider's website by this date.
Hyd at £300 y flwyddyn – am ddewis astudio rhan o’ch cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg
Ysgoloriaethau Academi Hywel Teifi (i fyfyrwyr sy’n astudio o leiaf 40 credyd y flwyddyn yn Gymraeg)
Mae Prifysgol Abertawe yn cynnig ysgoloriaethau gwerth £300 i annog myfyrwyr i ddilyn o leiaf 40 credyd y flwyddyn (33% o’u cwrs) trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r cynllun hwn yn agored i fyfyrwyr lefelau Sylfaen, 4, 5, 6, a 7 ac mae ysgoloriaethau gwerth £300 yr un ar gael.
Ewch i’r wefan i weld pa feysydd sy’n gymwys am yr Ysgoloriaethau.
Bwrsariaethau Academi Hywel Teifi (i fyfyrwyr sy’n astudio o leiaf 5 credyd y flwyddyn yn Gymraeg)
Mae Prifysgol Abertawe yn cynnig bwrsariaethau gwerth £100 i annog myfyrwyr i ddilyn o leiaf 5 credyd y flwyddyn trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r cynllun hwn yn agored i fyfyrwyr lefelau Sylfaen, 4, 5, 6, a 7 ac mae bwrsariaethau gwerth £100 yr un ar gael. Ewch i’r wefan i weld pa feysydd sy’n gymwys am y Bwrsariaethau.
Cofiwch
Gwelwyd cynnydd sylweddol yn nifer y ceisiadau a dderbyniwyd dros y ddwy flynedd ddiwethaf gan osod safon uchel i’r gystadleuaeth. O ganlyniad, anogir ymgeiswyr i dreulio amser yn cwblhau ceisiadau cryf i’w cyflwyno er mwyn sicrhau’r cyfle gorau am lwyddiant.
Up to £300 per year - for choosing to study part of your course through the medium of Welsh
Academi Hywel Teifi Scholarships (for students who study at least 40 credits per year in Welsh)
Swansea University offers £300 scholarships to encourage students to study at least 40 credits per year (33% of their course) through the medium of Welsh.The scheme is open to students studying at Foundation level and Levels 4, 5, 6 and 7, with £300 available per eligible student.
Visit the University website for full details, including eligible subject areas and how to apply.
Academi Hywel Teifi Bursaries (for students studying at least 5 credits per year in Welsh)
Swansea University offers £100 bursaries to encourage students to study at least 5 credits per year through the medium of Welsh. The scheme is open to students at Foundation level and Levels 4, 5, 6 and 7, with £100 available per eligible student.Visit the University website for full details, including eligible subject areas and how to apply.
Remember: