Sut ydw i’n gwneud cais?
Cofrestrwch yn Hwb UCAS ac atebwch y cwestiynau cofrestru – cadarnhewch y flwyddyn yr hoffech ddechrau eich astudiaethau a’ch bod am astudio ar lefel ‘Israddedig'.
Byddwch wedyn yn mynd i ddangosfwrdd eich Hwb UCAS, lle byddwch chi’n gweld teilsen o'r enw 'Eich cais'. Cliciwch ar 'Dechrau' er mwyn dechrau eich cais.
Mae gennym lawer o wybodaeth am lenwi cais.
Mae gan gyrsiau ddyddiadau cau gwahanol ar gyfer ceisiadau – ewch i’n tudalen ‘pryd i wneud cais’ i gael rhagor o wybodaeth.
Cyn y gallwch chi anfon eich cais atom, bydd angen i chi dalu ffi ymgeisio o £28.95 am hyd at bum dewis ar gyfer mynediad yn 2026.
Hepgor ffi ymgeisio: prydau ysgol am ddim: Os ydych wedi cael prydau ysgol am ddim a ariennir gan Lywodraeth y DU ar unrhyw adeg yn ystod eich addysg uwchradd, ni fydd yn rhaid i chi dalu'r ffi ymgeisio. Rhagor o wybodaeth.