Skip navigation
You are viewing our beta course page.

Astudiaethau Chwaraeon ac Addysg Gorfforol Dwyieithog (gyda blwyddyn Sylfaen Chwaraeon)

1 Study option · UndergraduateCardiff Met - Cyncoed
Awarded by:
Cardiff Metropolitan University (Prifysgol Metropolitan Caerdydd)

Course summary

Mae hon yn raglen pedair mlynedd sy'n cynnwys blwyddyn o astudiaeth sylfaenol sy'n arwain yn uniongyrchol i'r cwrs gradd. Mae ein blwyddyn sylfaen yn cynnig cyfle i gryfhau eich sgiliau, gwybodaeth a hyder, cyn i chi symud ymlaen i gam un o'ch gradd.

Mae’r cwrs hwn yn canolbwyntio ar ddatblygu eich dealltwriaeth academaidd ac ymarferol o chwaraeon drwy gyfrwng dwyieithog. Er y caiff rhan o’r cwrs ei gyflawni drwy gyfrwng y Saesneg, bydd y rhan fwyaf o’r cwrs ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg ac mae wedi’i gynllunio i foddhau’r galw cynyddol am raddedigion sydd â chymwyseddau a chymwysterau dwyieithog.

O ran y cynnwys, mae’r cwrs yn rhoi’r cyfle i chi ddeall ac archwilio chwaraeon o amrywiaeth o safbwyntiau disgyblaethol. Er enghraifft, byddwch yn dysgu am:

  1. Y broses hyfforddi (ymarferol a damcaniaethol)

  2. Arwyddocâd diwylliannol-gymdeithasol a moesegol chwaraeon a gweithgaredd corfforol

  3. Y materion sy’n gysylltiedig â darparu addysg gorfforol a chwaraeon ieuenctid o bersbectif addysgol

  4. Maeth poblogaeth a chwaraeon

Er bod y cwrs yn cynnig ystod eang o bynciau ac agweddau disgyblaethol, eto i gyd bydd y cwricwlwm yn eich galluogi i ganolbwyntio ac i arbenigo wrth i chi symud drwy’r tair blynedd o astudio academaidd. Yn ogystal â’r fframwaith academaidd damcaniaethol ac ymarferol cynhwysfawr, cewch eich annog i adeiladu portffolio o gymwysterau hyfforddi UKCC, dysgu ar leoliad gwaith a phrofiadau yn ystod eich cyfnod yn y Brifysgol. Mae Met Caerdydd yn cynnig cyfleoedd ar-gampws y gallwch gymryd rhan ynddyn nhw ac mae cysylltiadau rhagorol gan y Met â Chwaraeon Caerdydd a’r ysgolion a’r awdurdodau lleol sydd o’n cwmpas.

Mae myfyrwyr sy’n astudio y cwrs hwn yn gymwys am ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae nifer o ysgoloriaethau o £1000 a £500 y flwyddyn ar gael. Dilynwch y ddolen am fwy o wybodaeth:http://www.colegcymraeg.ac.uk/cy/astudio/cymorthariannol/​​

How to apply

Application codes

Course code:
ST9F
Institution code:
C20

Open days

Historical entry grades data BETA

This section shows the range of grades students (with UK A-Levels or Pearson BTEC Level 3 National Extended Diplomas) who received offers were previously accepted with (learn more). It is designed to support your research but does not guarantee whether you will or won't get a place. Admissions teams consider various factors, including interviews, subject requirements, and entrance tests. Check all course entry requirements for eligibility.

Not enough data available

We are unable to show previous accepted grades for this course. This could be because the course is new, it's a postgraduate course, there isn't enough historical data, or the provider has opted out of sharing their entry grades data for this course - learn more.

Fees and funding

Choose a specific option to see funding information.

Course options
Like this page