Paratowch am yrfa ddeinamig a boddhaus gyda’n cwrs TAR Uwchradd Dylunio a Thechnoleg. Yn rhan o’n rhaglen Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA), mae’r cwrs hwn yn rhoi i chi’r sgiliau a’r arbenigedd sydd eu hangen i ennill Statws Athro Cymwysedig (SAC) ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o ddylunwyr, peirianwyr ac arloeswyr.
Byddwch yn datblygu’r gallu i addysgu agweddau craidd Dylunio a Thechnoleg, gan gynnwys dylunio cynnyrch, defnyddiau gwrthiannol, systemau a rheolaeth, a thechnoleg bwyd. Mae’r cwrs yn cyfuno dysgu yn y brifysgol â phrofiad ymarferol, gan sicrhau eich bod yn ennill y wybodaeth ddamcaniaethol a’r sgiliau addysgu ymarferol sydd eu hangen ar gyfer llwyddiant yn yr ystafell ddosbarth.
Bydd lleoliadau mewn ystod o ysgolion, gan gynnwys lleoliadau trefol, gwledig a chyfrwng Cymraeg, yn darparu profiad gwerthfawr o’r ystafell ddosbarth. Bydd y lleoliadau hyn yn eich helpu i fireinio’ch strategaethau addysgu, deall sut i addasu gwersi ar gyfer dysgwyr gwahanol, a datblygu hyder wrth gyflwyno gwersi diddorol a chynhwysol.
Mae’r rhaglen hefyd yn pwysleisio sgiliau addysgu hanfodol, megis rheoli dosbarth, cynllunio’r cwricwlwm a dulliau asesu effeithiol. Drwy gydol eich lleoliadau ysgol, byddwch yn derbyn cymorth mentora a phroffesiynol, gan ganiatáu i chi ddatblygu dull addysgu sy’n adfyfyriol a seiliedig ar ymchwil.
Erbyn diwedd y cwrs, byddwch yn barod i ysbrydoli eich myfyrwyr i ddangos creadigrwydd a datrys problemau, gan roi iddynt y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnynt ar gyfer dyfodol wedi’i siapio gan dechnoleg a dylunio.
Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi Dylunio a Thechnoleg yn bwnc blaenoriaeth uchel, ac mae bwrsariaethau o hyd at £20,000 ar gael i gefnogi eich hyfforddiant. Mwy o wybodaeth yma: https://www.llyw.cymru/cynllun-cymhelliant-addysg-gychwynnol-i-athrawon-ar-gyfer-pynciau-blaenoriaeth-canllawiau-i-0