Skip navigation
You are viewing our beta course page.

Busnes (TAR Uwchradd - Graddedigion yn unig) (Taught)

1 Study option · PostgraduateSA1 Waterfront Campus, Swansea
Awarded by:
University of Wales Trinity Saint David (Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant)

Course summary

Mae ein cwrs TAR Uwchradd Busnes yn gwrs Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) hir-sefydlog, gan gynnig llwybr cadarn at Statws Athro Cymwysedig (SAC).

Mae’r rhaglen hon yn cyfuno hyfforddiant dan arweiniad y brifysgol â lleoliadau dan arweiniad ysgolion i ddatblygu eich sgiliau addysgu. Gallwch drawsnewid eich arbenigedd busnes yn addysgu effeithiol yn yr ystafell ddosbarth gyda gwybodaeth gadarn am y cwricwlwm ac addysgeg arloesol.

Mae’r cwrs yn cwmpasu grwpiau blwyddyn uwchradd, yn cynnwys TGAU a Safon Uwch, gan sicrhau dealltwriaeth gynhwysfawr o addysg fusnes. Cewch brofiad o amgylcheddau addysgu amrywiol drwy leoliadau trefol a gwledig, gan gynnwys ysgolion cyfrwng Cymraeg. Bydd profiad addysgu proffesiynol (PAP) a chymorth mentoriaid yn arwain eich datblygiad.

Mae’r rhaglen yn cynnwys siaradwyr gwadd o rwydweithiau busnes proffesiynol ac mae’n cynnig cyfleoedd am brofiad addysgu ymarferol, megis y ‘Big Business Bonanza’ blynyddol, gan roi cyfle i chi roi gweithdai arloesol i fyfyrwyr busnes Blwyddyn 10. Mae cymorth ariannol ar gael drwy fwrsariaethau ac ysgoloriaethau.

How to apply

Fees and funding

Choose a specific option to see funding information.

Course options
Like this page