Course summary
Paratowch ar gyfer gyrfa werth chweil mewn addysgu gyda’n rhaglen TAR Cynradd gyda SAC. Mae’r cwrs hwn yn rhan o’ch Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) ac mae wedi’i gynllunio i roi’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ddod yn athro cynradd effeithiol ac ysbrydoledig. Ar ôl cwblhau’r cwrs, byddwch yn ennill Statws Athro Cymwysedig (SAC), gan eich gwneud yn gymwys i addysgu mewn ysgolion ar draws y DU.
Mae’r rhaglen yn cwmpasu addysgu ar draws pob oedran cynradd, gan sicrhau dealltwriaeth eang o’r cwricwlwm cynradd. Byddwch yn cael eich dysgu yn y brifysgol a lleoliadau ysgol ymarferol, lle byddwch yn datblygu’r gallu i gynllunio, addysgu ac asesu’n effeithiol ar draws ystod o bynciau. Bydd ein tiwtoriaid ac ymarferwyr dosbarth profiadol yn eich cefnogi wrth ddatblygu eich ymarfer addysgu drwy ddarlithoedd rhyngweithiol, gweithdai a phrofiadau ymarferol.
Ffocws allweddol y cwrs yw meithrin eich gallu i adlewyrchu ar eich addysgu a gwella eich ymarfer yn barhaus. Byddwch yn archwilio ystod o ddulliau addysgu, gan gynnwys dulliau arloesol a chreadigol i ennyn diddordeb dysgwyr ifanc. Yn ogystal, mae’r rhaglen hon yn gosod pwyslais cryf ar ddeall anghenion amrywiol plant, gan eich helpu I gefnogi pob disgybl i gyrraedd eu llawn potensial.
Yn ystod eich lleoliadau ysgol, byddwch yn cael y cyfle i brofi addysgu mewn lleoliadau gwahanol, gan gynnwys ysgolion trefol a gwledig, yn ogystal ag ysgolion Cymraeg os dymunir. Mae’r lleoliadau hyn yn rhan hanfodol o’ch hyfforddiant, gan ganiatáu i chi gymhwyso eich addysgu mewn sefyllfaoedd ystafell ddosbarth go iawn a datblygu hyder yn eich galluoedd addysgu. Byddwch yn derbyn arweiniad a chymorth gan fentoriaid profiadol drwy gydol eich lleoliadau a fydd yn eich helpu i dyfu fel athro.
Modules
Cylch 1 Astudiaethau Craidd: Y Dysgwr: pwy ydw i'n ei addysgu? (20 credydau)
Arwain y Dysgu: beth, sut a pham ydw i'n addysgu? 1 (30 credydau)
Y Gymraeg mewn Ymarfer Proffesiynol (10 credydau)
Astudiaethau Craidd: Dysgwyr, Ysgolion a Chymunedau: ble ydw i'n addysgu? (30 credydau)
Ymchwilio i'r Dysgu: beth, sut a pham ydw i'n addysgu? (30 credydau)
Assessment method
Mae cynllun y rhaglen yn darparu’r cyfle i asesiadau gael eu cysylltu’n agos ag arfer ystafell ddosbarth a thynnu ar brofiad a geir o brofiad personol. Mae’r dull hwn yn sefydlu’r cysylltiadau rhwng dysgu deallusol a dysgu trwy brofiadau ymhellach.
Er enghraifft, bydd rhaid i fyfyrwyr gynllunio, cynnal, gwerthuso a rhannu prosiect ymchwil agos i arfer a fydd yn effeithio’n uniongyrchol ar ddysgwyr. Lle bynnag y bo’n bosibl, caiff aseiniadau eu cyflwyno a’u marcio’n electronig i hwyluso adborth amserol ac effeithiol.
Mae elfennau asesu’n cynnwys aseiniadau ysgrifenedig, portffolio, fideo unigol a phrosiect ymchwil.
Qualified teacher status (QTS)
To work as a teacher at a state school in England or Wales, you will need to achieve qualified teacher status (QTS). This is offered on this course for the following level: