University of Wales Trinity Saint David
College Road
Carmarthen
SA31 3EP
Visit our website Visit our course page
Course contact details
Admissions Office
Email:admissions@uwtsd.ac.uk
Phone:0300 500 5054
Mae ein cwrs TAR Uwchradd Drama yn rhan o Faes Dysgu a Phrofiad y Celfyddydau Mynegiannol.
Mae’r rhaglen Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) hon yn darparu llwybr i Statws Athro Cymwysedig (SAC) gyda chyfuniad o hyfforddiant dan arweiniad y brifysgol a lleoliadau dan arweiniad ysgolion.
Cewch ddatblygu eich sgiliau mewn addysgeg ac arfer adfyfyriol, gan ganolbwyntio ar addysg ddrama ar draws yr ystod oed uwchradd.
Cewch brofiad o amgylcheddau addysgu amrywiol drwy leoliadau trefol a gwledig, gan gynnwys ysgolion cyfrwng Cymraeg. Mae profiad addysgu proffesiynol (PAP) a chymorth mentoriaid yn ganolog, gan sicrhau hyfforddiant cynhwysfawr.
Mae’r rhaglen yn pwysleisio pwysigrwydd drama wrth helpu pobl ifanc i fod yn ddinasyddion uchelgeisiol, creadigol a moesegol. Mae cymorth ariannol ar gael drwy fwrsariaethau ac ysgoloriaethau.
Mae’r TAR yn rhaglen academaidd a phroffesiynol amser llawn a chynhwysfawr a luniwyd i’ch paratoi am yrfa lwyddiannus yn addysgu. Mae’r rhaglen yn cwmpasu 36 wythnos, gydag oddeutu 12 wythnos o ddarpariaeth yn y brifysgol ac o leiaf 24 wythnos mewn ysgolion.
Cwricwlwm Craidd
Ein cwricwlwm craidd arloesol a achredwyd yn ddiweddar yw asgwrn cefn ein rhaglen Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA). Mae’n cynnwys:
Modylau Gorfodol: Mae’r modylau hanfodol hyn yn cwmpasu agweddau sylfaenol ar addysgu ac addysg.
Datblygu Sgiliau Ymchwil: Byddwch yn datblygu sgiliau ymchwil beirniadol sy’n hanfodol ar gyfer arfer adfyfyriol a datblygiad proffesiynol parhaus.
Llwybr Proffesiynol ar gyfer Statws Athro Cymwysedig (SAC): Mae’r llwybr hwn yn sicrhau eich bod yn bodloni’r safonau proffesiynol sy’n ofynnol ar gyfer SAC.
Llwybr Datblygu’r Gymraeg: Byddwch yn gwella’ch gallu i addysgu a chyfathrebu yn y Gymraeg, sgil gwerthfawr yn ein system addysg ddwyieithog.
Pontio: Gweithgareddau sy’n integreiddio damcaniaeth yn ddi-dor â chymhwyso’n ymarferol, gan atgyfnerthu eich profiad dysgu.
Profiadau dewisol: Dewiswch brofiad yn yr ysgol mewn maes o ddiddordeb i ddyfnhau eich arbenigedd a’ch sgiliau ymarferol.
Lleoliad Amgen: Cewch fewnwelediad drwy brofi lleoliadau addysg tu allan i ysgolion traddodiadol, megis amgylcheddau addysg arbennig.
Cylch 1 Astudiaethau Craidd: Y Dysgwr: pwy ydw i'n ei addysgu? (20 credydau)
Arwain y Dysgu: beth, sut a pham ydw i'n addysgu? 1 (30 credydau)
Y Gymraeg mewn Ymarfer Proffesiynol (10 credydau)
Astudiaethau Craidd: Dysgwyr, Ysgolion a Chymunedau: ble ydw i'n addysgu? (30 credydau)
Ymchwilio i'r Dysgu: beth, sut a pham ydw i'n addysgu? (30 credydau)
Mae’r rhaglen yn cynnig 60 credyd ar lefel Meistr a 60 credyd ar lefel Graddedig. Dyfernir y rhain wrth gwblhau asesiadau modwl yn llwyddiannus, sy’n cynnwys:
Astudiaethau achos
Portffolios
Cyflwyniad fideo
Prosiect Ymchwil
Mae pob aseiniad wedi’i gysylltu’n agos ag arfer ac wedi’u dylunio i gynnig cyfle i chi ddatblygu addysgu a dysgu sy’n cael effaith bositif ar blant a phobl ifanc.
To work as a teacher at a state school in England or Wales, you will need to achieve qualified teacher status (QTS). This is offered on this course for the following level:
The following entry points are available for this course:
Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa. Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi. Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr. I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau. Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais.
Gradd anrhydedd 2.2 a TGAU gradd C (neu 4) neu gyfwerth mewn Mathemateg neu Rifedd a Saesneg neu Iaith Gymraeg.
This section shows the range of grades students (with UK A-Levels or Pearson BTEC Level 3 National Extended Diplomas) who received offers were previously accepted with (learn more). It is designed to support your research but does not guarantee whether you will or won't get a place. Admissions teams consider various factors, including interviews, subject requirements, and entrance tests. Check all course entry requirements for eligibility.
We are unable to show previous accepted grades for this course. This could be because the course is new, it's a postgraduate course, there isn't enough historical data, or the provider has opted out of sharing their entry grades data for this course - learn more.
| Location | Fee | Year |
|---|---|---|
| England | £9790 | Year 1 |
| Northern Ireland | £9790 | Year 1 |
| Scotland | £9790 | Year 1 |
| Wales | £9790 | Year 1 |
| Channel Islands | £9790 | Year 1 |
| Republic of Ireland | £9790 | Year 1 |
| EU | £15600 | Year 1 |
| International | £15600 | Year 1 |
Tuition fee status depends on a number of criteria and varies according to where in the UK you will study. For further guidance on the criteria for home or overseas tuition fees, please refer to the UKCISA website.
No additional fees or cost information has been supplied for this course, please contact the provider directly.
College Road
Carmarthen
SA31 3EP
Visit our website Visit our course page
Email:admissions@uwtsd.ac.uk
Phone:0300 500 5054