Aberystwyth University Open Day - July 4 2026
4 Jul 2026, 08:00
Aberystwyth
Wrth ddewis astudio’r cwrs BA Hanes a Hanes Cymru hwn, byddi’n dewis dysgu mewn adran uchel ei pharch sy’n llwyddo i ddod â’r gorffennol yn fyw. Mae’r Adran Hanes a Hanes Cymru yn cael ei chydnabod yn un o’r prif adrannau Hanes ym Mhrydain. Bwriad y radd hon yw datblygu dy ddiddordebau hanesyddol, gan ehangu a dyfnhau dy wybodaeth a dy ddealltwriaeth o’r pwnc gan astudio elfennau penodol o hanes Cymru. Mae’r rhaglen wedi ei chynllunio i fod yn hyblyg iawn, felly mae modd teilwra’r radd Hanes a Hanes Cymru i dy ddiddordebau penodol dy hun. Fel rhan o dy radd ym Mhrifysgol Aberystwyth byddi’n meithrin sgiliau gwerthfawr gan gynnwys y gallu i brosesu llawer iawn o wybodaeth a chyfathrebu’n effeithiol ar lafar ac ar bapur.
Mae’r rhan fwyaf ohonom yn chwilfrydig am y gorffennol ac am y ffordd mae cymdeithas ddynol wedi esblygu dros amser. Yn ogystal â bod yn ddiddorol ynddo’i hun, mae astudio hanes yn cynnig gweledigaeth a all ein helpu i ddeall digwyddiadau’r byd sydd ohoni.
Wrth astudio’r radd hon byddi’n astudio modiwlau hanes Cymru ac hefyd yn dewis o blith yr ystod eang o fodiwlau eraill (Hanes) a gynigir gan yr Adran Hanes a Hanes Cymru. Byddi’n edrych pa effaith mae digwyddiadau’r gorffennol wedi eu cael ar y presennol ac yn meithrin sgiliau dadansoddi, dehongli a chyfathrebu, sydd mor bwysig mewn bywyd bob dydd.
Bu modd astudio Hanes fel pwnc ym Mhrifysgol Aberystwyth ers ei sefydlu yn 1872, a thros y 140 mlynedd diwethaf rydym wedi perffeithio’r cynlluniau gradd yr ydyn ni’n eu cynnig er mwyn sicrhau dy fod yn cael y radd Hanes orau posib. Mae’r cynllun gradd mewn Hanes yn un cyffrous a diddorol.
Mae diddordebau ein darlithwyr yn amrywio o’r cynfyd i’r byd modern, felly gallwn gynnig modiwlau hanes diwylliannol, economaidd, cymdeithasol a gwleidyddiol amrywiol o bob cyfnod i ti. Mae’r darlithwyr i gyd yn ymwneud â gwaith ymchwil diweddar hefyd. Yn yr asesiad Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014, roedd 95% o ymchwil a gynnalwyd yn Brifysgol Aberystwyth o safon â gydnabyddir yn rhyngwladol. Gallwn felly roi cyfle iti ddatblygu dy ddoniau a dy ddiddordebau hanesyddol drwy astudio’n agos gyda thiwtoriaid sy’n arbenigwyr yn eu meysydd.
Rydym yn rhoi pwyslais mawr ar ddysgu mewn grwpiau bach, a bron yn unigryw am ddarparu sesiynau tiwtorial un-i-un. Bydd hyn yn fantais mawr iti fel myfyriwr.
Yn ogystal â Llyfrgell wych y Brifysgol, gall myfyrwyr Hanes yn Aberystwyth fwynhau aelodaeth gyflawn o Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Dim ond pum llyfrgell hawlfraint a geir ledled Prydain, a’n Llyfrgell Genedlaethol ni yw un ohonynt. Mae’n dal mwy na 6 miliwn o lyfrau, mapiau a phrintiadau, ac mae’r cwbl o fewn pum munud i’r Adran. Bydd yr adnoddau hyn yn werthfawr dros ben wrth i ti astudio dy Bwnc Arbennig ac ysgrifennu dy draethawd estynedig yn y drydedd flwyddyn.
Mae cymuned glos a chyfeillgar yn yr Adran, sydd wedi ei lleoli yng nghanol campws y Brifysgol. Rydym yn ymfalchïo yn y berthynas gyfeillgar ac anffurfiol sydd rhwng y staff a’r myfyrwyr. Mae yma Gymdeithas Hanes fywiog sydd yn trefnu darlithoedd gan siaradwyr gwadd, ymweliadau â mannau o ddiddordeb a digwyddiadau cymdeithasol drwy’r flwyddyn. Mae gennym hefyd nifer o gysylltiadau â phrifysgolion tramor, sy’n golygu y gallet fanteisio ar y cyfle i dreulio amser dramor yn mwynhau diwylliant hanesyddol gwahanol.
Mae ein graddedigion wedi bod yn llwyddiannus yn sicrhau proffesiwn mewn llawer o feysydd gwahanol;
Addysg; Y Gyfraith; Archifwyr; Cyhoeddwyr; Gwleidyddion; Gweision Sifil; Y Cyfryngau; Y Lluoedd Arfog; Entrepreneuriaid.
The following entry points are available for this course:
Applicants are selected on their individual merits and offers can vary. We allow you flexibility in meeting our entry requirements, and all qualifications that you have already gained, or are working towards, will be considered when reviewing your application.
We have an inclusive policy which recognises a broad range of qualifications. The entry requirements listed above represent typical offers for some of the most popular qualifications taken by applicants.
If you cannot find the qualifications that you are studying (or have previously studied) please contact our Undergraduate Admissions Office (Telephone: +44 (0)1970 622021; Email: ug-admissions@aber.ac.uk) for advice on your eligibility and details of the typical offer you are likely to receive.
| Test | Grade | Additional details |
|---|---|---|
| Cambridge English Advanced | B | |
| Cambridge English Proficiency | C | |
| IELTS (Academic) | 6.5 | With minimum 5.5 in each component. |
| PTE Academic | 62 | With minimum scores of 51 in each component. |
| TOEFL (iBT) | 88 | With minimum scores in components as follows: Listening 21; Writing 21; Reading 22; Speaking 23. |
Within our Contextual Offer Scheme, we strive to embrace students whose educational and social backgrounds may have influenced their academic journey. Our decision-making process involves assessing the entire application to make an assessment based on your grades and individual circumstances.
This section shows the range of grades students (with UK A-Levels or Pearson BTEC Level 3 National Extended Diplomas) who received offers were previously accepted with (learn more). It is designed to support your research but does not guarantee whether you will or won't get a place. Admissions teams consider various factors, including interviews, subject requirements, and entrance tests. Check all course entry requirements for eligibility.
We are unable to show previous accepted grades for this course. This could be because the course is new, it's a postgraduate course, there isn't enough historical data, or the provider has opted out of sharing their entry grades data for this course - learn more.
| Location | Fee | Year |
|---|---|---|
| England | £9535 | Year 1 |
| Northern Ireland | £9535 | Year 1 |
| Scotland | £9535 | Year 1 |
| Wales | £9535 | Year 1 |
| Channel Islands | £9535 | Year 1 |
| Republic of Ireland | £9535 | Year 1 |
| EU | £18170 | Year 1 |
| International | £18170 | Year 1 |
Tuition fee status depends on a number of criteria and varies according to where in the UK you will study. For further guidance on the criteria for home or overseas tuition fees, please refer to the UKCISA website.
Please note Irish nationals will continue to be eligible for home fee status and support by the Welsh Government under the Common Travel Area arrangement
Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig pecyn gwerthfawr o ysgoloriaethau a bwrsariaethau i gynorthwyo myfyrwyr. Mae ein cystadleuaeth Ysgoloriaeth Mynediad hirsefydlog yn golygu y gallech gael hyd at £2,000 y flwyddyn tuag at eich costau byw a’ch costau astudio. Gallwch gyfuno Ysgoloriaeth Mynediad gydag unrhyw un, neu â’n holl wobrau eraill, i wneud eich pecyn ariannol yn fwy gwerthfawr. Mae’n ein gwobrau’n cynnwys Bwrsariaeth Aberystwyth, sy’n dibynnu ar brawf modd, yr Ysgoloriaethau Chwaraeon a Cherddoriaeth, bwrsariaethau i rai sy’n gadael gofal/gofalwyr ifainc/myfyrwyr dieithredig ac ystod o wobrau adrannol-benodol. Ewch i’n gwefan i gael y manylion llawn.
Penglais
Aberystwyth
Ceredigion
Wales
SY23 3FL
Visit our website Visit our course page
Email:history-enquiries@aber.ac.uk
Phone:+44 (0)1970 622662
Fax: +44 (0)1970 622676
Email:admissions@aber.ac.uk
Phone:01970 622021
At Aberystwyth University