Mae’r radd hon mewn Cymraeg ac Ysgrifennu Creadigol wedi ei chynllunio i chi ddarganfod a datblygu eich creadigrwydd eich hun fel awdur. Gallwch ddatblygu eich ymarfer creadigol eich hun ym maes barddoniaeth, straeon byrion, y nofel a ffeithiol greadigol. Byddwch yn astudio modiwlau sy'n seiliedig ar ymarfer mewn barddoniaeth, ysgrifennu rhyddiaith, ysgrifennu sgriptiau a drama, a bydd eich sgiliau ieithyddol a chyflogadwyedd yn cael eu gwella ymhellach gan fodiwlau sy'n ymwneud â defnydd proffesiynol o'r Gymraeg. Byddwch yn archwilio cywreinrwydd a grym creadigol y Gymraeg ac yn astudio modiwlau academaidd mwy traddodiadol eu naws, a siwrnai a allai arwain at yrfa fel sgriptiwr, awdur, golygydd, neu lywodraeth leol, darlledu ac addysgu.
Os ydych chi yn eich elfen yn darllen llenyddiaeth Gymraeg ac o ddifri ynglŷn â datblygu eich ysgrifennu eich hun, efallai mai BA Cymraeg gydag Ysgrifennu Creadigol yw’r cwrs gradd ar eich cyfer chi! Bydd modiwlau amrywiol – rhai’n canolbwyntio ar feirdd o Aneirin hyd at Catrin Dafydd, nofelwyr o Daniel Owen hyd at Manon Steffan Ros, a dramodwyr o Saunders Lewis hyd at Aled Jones Williams - yn cyfoethogi eich profiad llenyddol ac yn bwydo eich creadigrwydd. A than arweiniad darlithwyr sy’n awduron profiadol, bydd cyfle i ddatblygu eich ysgrifennu creadigol chithau o fewn cyfres o fodiwlau arbenigol.
Ym Mhrifysgol Bangor cewch gyfle nid yn unig i astudio a mwynhau un o lenyddiaethau Celtaidd mwyaf hynod y byd, ond bydd cyfleoedd hefyd i ddilyn modiwlau mwy ymarferol eu gogwydd a fydd yn eich paratoi at yrfa lwyddiannus yn gweithio’n ddwyieithog. Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i ymchwilio’n annibynnol, i feddwl yn wreiddiol, i ddod i adnabod llenyddiaeth Gymraeg a diwylliant Cymru mewn dyfnder ac i feistroli gwahanol gyweiriau’r iaith. Cewch ymwybyddiaeth hefyd o’r Gymraeg mewn cyd-destunau rhyngwladol ehangach. Beth yw perthynas y Gymraeg ag ieithoedd eraill y byd? Sut mae ffawd yr iaith yn cymharu ag ieithoedd fel Basgeg a Gwyddeleg? Sut mae llenorion a beirdd Cymru wedi ymateb i themâu byd-eang fel caethwasiaeth, yr Holocost a her ecolegol y byd modern diwydiannol?
O’r cyfnodau cynharaf hyd at y presennol, mae’r dewisiadau o ran modiwlau yn eang a’r cyfleoedd i ehangu eich gorwelion yn ddi-ben-draw.
Mae opsiynau 'Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' a 'Blwyddyn ar Leoliad' ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiynau hyn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i un o’r opsiynau yma ar yr adeg priodol. Mae mwy o wybodaeth am yr opsiynau hyn ar ein gwefan, ac mae croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw ymholiad.
Os nad oes gennych mo'r cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd hwn, neu os ydych am fynd yn ôl i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi. Gwnewch gais am Cymraeg i ddechreuwyr (gyda Blwyddyn Sylfaen) Q565.