Wrth astudio Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid, byddwch yn dod i gysylltiad â’r myrdd o faterion cyfoes sy’n effeithio ar blentyndod ac ieuenctid, a chymhlethdodau bywyd modern yn erbyn cefndir newidiadau diwylliannol, cymdeithasol, economaidd, addysgol a gwleidyddol byd-eang.
Mae’r radd gyfrwng Cymraeg hon yn ddelfrydol i siaradwyr Cymraeg a phobl sydd eisiau gweithio yng Nghymru. Mae’n edrych ar amrediad llawn profiadau plant a phobl ifanc hyd at dyfu i fod yn oedolion. Mae hyn yn cynnwys llencyndod, hawliau plant, datblygiad, dysgu, chwarae, hunaniaeth, diogelu, iechyd meddwl ac amrywiaeth.
Ym Mhrifysgol Bangor, mae gan ein tîm addysgu arbenigedd a chefndiroedd mewn seicoleg, cymdeithaseg, hawliau plant, ieithyddiaeth, addysg, fforenseg, iechyd a lles. Byddwch yn cyfarfod ag amrywiaeth o weithwyr proffesiynol aml-asiantaeth, a fydd yn rhannu eu profiadau o ddatblygu partneriaethau llwyddiannus gyda phlant a phobl ifanc a'u teuluoedd.
Byddwch yn gallu dysgu sgiliau damcaniaethol ac ymarferol wrth gefnogi plant a phobl ifanc, gan gynnwys cefnogi plant ag anghenion dysgu ychwanegol ac anawsterau cyfathrebu trwy fanteisio ar gyfleoedd i ddysgu technegau cymorth cyfathrebu. Mae ehangder a dyfnder y radd Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid amlddisgyblaethol hon yn eich paratoi at amrywiaeth eang o yrfaoedd.
Mae opsiynau 'Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' a 'Blwyddyn ar Leoliad' ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiynau hyn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i un o’r opsiynau yma ar yr adeg priodol. Mae mwy o wybodaeth am yr opsiynau hyn ar ein gwefan, ac mae croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw ymholiad.
Cwrs cyfrwng Cymraeg yw hwn. Am y cwrs cyfrwng Saesneg, gweler Childhood and Youth Studies, X313.