Ble alla i gael rhagor o wybodaeth am gyllid?
Nid ydym yn trefnu cyllid myfyrwyr, ond gallwch chi ddewis caniatáu i ni rannu rhai o'r manylion o'ch cais gyda'ch sefydliad cyllido rhanbarthol.
Mae rhagor o gyngor ar y cyllid sydd ar gael i israddedigion yn y DU a gwybodaeth am sut i wneud cais amdano yn adran cyllid myfyrwyr israddedig ein gwefan. Ceir gwybodaeth am gyllid i fyfyrwyr tramor yn ein hawgrymiadau ar gyfer ceisiadau rhyngwladol.