Skip navigation

Rwy'n cael trafferth talu am fy nghais – beth ddylwn i ei wneud?

Rwy'n cael trafferth talu am fy nghais – beth ddylwn i ei wneud?

Er mwyn gallu talu ac anfon eich cais, rhaid sicrhau eich bod yn cwblhau pob adran. Os ydych chi'n gwneud cais yn annibynnol, rhaid cynnwys geirda ar-lein gan eich canolwr.

Os nad yw'r taliad yn mynd drwodd, gwnewch yn siŵr bod yr holl fanylion wedi'u cofnodi'n gywir, bod gennych chi arian ar gael, a bod y cerdyn wedi'i gofrestru ar gyfer taliadau ar-lein.

Os ydych chi y tu allan i'r DU, mae’n bosibl y bydd angen i chi roi gwybod i'ch banc eich bod yn ceisio gwneud y taliad hefyd.

Peidiwch â chlicio sawl gwaith gan y gall hyn achosi problemau hefyd. Os bydd hyn yn cloi eich ymgais i dalu, bydd y system yn ailosod yn awtomatig ar ôl dau funud.