Undergraduate On-Campus Open Day at Swansea University - Singleton Park Campus and Bay Campus - 28 March 2026
28 Mar 2026, 08:30
Swansea
Mae'r BA Cymraeg, Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus yn cynnig cyfle unigryw i astudio'r Gymraeg ochr yn ochr â damcaniaeth ac ymarfer y cyfryngau a chysylltiadau cyhoeddus. Mae'r rhaglen ryngddisgyblaethol hon yn ymateb i dirwedd gyfathrebu ddwyieithog sy'n datblygu'n gyflym, gan ddathlu cyfoeth yr iaith Gymraeg a'i diwylliant mewn cyd-destun byd-eang.
Byddwch yn archwilio egwyddorion ac arferion cysylltiadau cyhoeddus, y cyfryngau a ffilm, gan ennill craffter beirniadol a phrofiad ymarferol. Mae'r cwrs yn cyfuno damcaniaeth â dysgu ymarferol, gan roi cyfleoedd i chi greu cynnwys a datblygu syniadau bob blwyddyn. Byddwch chi'n defnyddio offer sy'n dylanwadu ar gysylltiadau cyhoeddus modern - marchnata dylanwadwyr, creu cynnwys, dadansoddeg cyfryngau cymdeithasol, arfer moesegol a chyfrifoldeb cymdeithasol - gan feithrin sgiliau i reoli enw da ar-lein ac arwain ymgyrchoedd digidol.
Mae'r gydran Gymraeg yn cynnig ymagwedd ffres ar iaith, llenyddiaeth a chymdeithas, ac mae'r gydran hon wedi'i rhannu’n dair thema: Creadigrwydd, Cyflogadwyedd a'r Gymraeg yn y Gymdeithas. Byddwch hefyd yn ystyried y Gymraeg mewn cyd-destun rhyngwladol, a fydd yn eich annog i fyfyrio ar amlddiwylliannaeth, amrywiaeth ieithyddol a rôl y Gymraeg mewn byd sy'n newid.
Mae modiwlau sy'n canolbwyntio ar yrfaoedd a phrosiectau ar gyfer y byd go iawn yn eich paratoi chi ar gyfer amgylcheddau gwaith dwyieithog a gyrfaoedd mewn diwydiannau creadigol, cysylltiadau cyhoeddus, addysg, cyhoeddi, darlledu a gwasanaethau cyhoeddus. Mae dysgu mewn grwpiau bach a chymorth personol yn creu ymdeimlad cryf o gymuned.
Byddwch yn graddio fel ymarferwr adfyfyriol hyblyg - yn rhugl yn y Gymraeg, yn llythrennog yn y cyfryngau ac yn barod i greu cynnwys cymhellol ar draws platfformau digidol.
Beth am ehangu eich profiad â Blwyddyn Dramor neu Flwyddyn mewn Diwydiant? Gallwch dreulio amser yn astudio dramor neu ennill profiad gwaith â thâl (cyflog cyfartalog o dros £20,000), gan roi hwb i'ch sgiliau a'ch cyflogadwyedd
https://www.swansea.ac.uk/cy/cymraeg/
Bydd eich blwyddyn gyntaf yn cynnwys cymysgedd o fodiwlau gorfodol a dewisol, enghreifftiau o fodiwlau gorfodol o’r blynyddoedd diwethaf gan gynnwys:
• Meistroli’r Iaith
• Cysylltiadau Cyhoeddus: Cyfathrebu Strategol
Bydd eich ail a'ch trydedd flwyddyn yn cynnwys modiwlau cwbl ddewisol. Mae enghreifftiau o fodiwlau dewisol o'r blynyddoedd diwethaf wedi cynnwys:
• Hawliau Laith yn y Cyd-destun Rhyngwladol
• Amlddiwylliannedd a'r Gymraeg
• Y Gymraeg, Datganoli a'r Gyfraith
• Cynllunio Cynhyrchiad Aml-blatfform
Bydd eich blwyddyn olaf yn cynnwys prosiect traethawd hir annibynnol.
Rydym yn cynnig amrywiaeth o ddulliau asesu o fewn ein rhaglenni. Yn ogystal ag arholiadau a thraethodau traddodiadol, mae enghreifftiau o asesu amgen yn cynnwys:
• Podlediadau
• Creu Gwefannau
• Cyflwyniadau Llafar
• Recordio Bwletin
• Creu a Chyflwyno meicrowers
• Adolygiadau Llyfrau
The following entry points are available for this course:
If you are an international applicant please visit our international pages for more information and details on how to apply: http://www.swansea.ac.uk/international/
Discover what it's like to study Cymraeg, Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus (Welsh, Media and Public Relations) at Swansea University: insights on the course, making friends, personal statement tips, uni prep, and recommended books, podcasts, and videos.
Welsh GCSE Minimum Grade C (4).
English Language Requirements at Swansea University https://www.swansea.ac.uk/admissions/english-language-requirements/
UK applicants who meet course requirements are guaranteed a conditional offer. We assess applications on individual merit. We consider making reduced offers, eg. to Care Leavers or students with extenuating circumstances. We encourage you to disclose any relevant circumstances.
The Advanced Skills Baccalaureate Wales is considered as equivalent to one full A-Level and students can take x2 A-levels alongside this. EPQ students predicted Grade B or above will receive a one-grade offer reduction.
This section shows the range of grades students (with UK A-Levels or Pearson BTEC Level 3 National Extended Diplomas) who received offers were previously accepted with (learn more). It is designed to support your research but does not guarantee whether you will or won't get a place. Admissions teams consider various factors, including interviews, subject requirements, and entrance tests. Check all course entry requirements for eligibility.
Students aged 17/18 who applied to this course were offered a place.
See how students with your grades have been accepted onto this course in the past.
No fee information has been provided for this course
Tuition fee status depends on a number of criteria and varies according to where in the UK you will study. For further guidance on the criteria for home or overseas tuition fees, please refer to the UKCISA website.
For the latest fee information, please check the individual course page on our website. Our full range of programmes are listed here: https://www.swansea.ac.uk/undergraduate/courses/
Further information on tuition fees can be found here: https://www.swansea.ac.uk/undergraduate/fees-and-funding/tuition-fees/
"You may be eligible for funding to help support your study.
To find out about scholarships, bursaries and other funding opportunities that are available please visit the University's scholarships and bursaries page https://www.swansea.ac.uk/undergraduate/scholarships/
Academi Hywel Teifi at Swansea University and the Coleg Cymraeg Cenedlaethol offer a number of generous scholarships and bursaries for students who wish to study through the medium of Welsh or bilingually. For further information about the opportunities available to you, visit the Academi Hywel Teifi Scholarships and Bursaries page https://www.swansea.ac.uk/academi-hywel-teifi/learn/scholarships/
Singleton Park
Swansea
SA2 8PP
Visit our website Visit our course page
Email:COAHGradCentrePGAdmissions@swansea.ac.uk
Phone:01792 295190