Skip navigation

Saesneg (TAR Uwchradd - Graddedigion yn unig) (Taught)

Course details
  • Postgraduate Certificate in Education
  • 1 Years
  • Full-Time
  • 1 September 2027
  • Postgraduate
Course location
SA1 Waterfront Campus, Swansea
Awarded by:
University of Wales Trinity Saint David (Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant)

Course summary

Mae ein llwybr TAR Uwchradd Saesneg yn rhaglen Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) arloesol gan arwain at Statws Athro Cymwysedig (SAC). Mae’r cwrs yn cyfuno hyfforddiant dan arweiniad y brifysgol â lleoliadau dan arweiniad ysgolion i baratoi athrawon Saesneg effeithiol. Cewch wybodaeth gynhwysfawr am y cwricwlwm a byddwch yn datblygu sgiliau mewn addysgeg ac arfer adfyfyriol.

Cewch brofiad o addysgu mewn sefydliadau amrywiol, gan gynnwys lleoliadau trefol a gwledig, ac ysgolion cyfrwng Cymraeg. Mae profiad addysgu proffesiynol (PAP) a chymorth mentoriaid yn elfennau allweddol, gan sicrhau datblygiad cynhwysfawr.

Mae’r rhaglen yn pwysleisio pwysigrwydd Saesneg wrth helpu pobl ifanc i ddod yn gyfathrebwyr hyderus, adfyfyriol a chymwys. Mae cymorth ariannol ar gael drwy fwrsariaethau ac ysgoloriaethau.

Modules

Modules

Mae’r TAR yn rhaglen academaidd a phroffesiynol amser llawn a chynhwysfawr a luniwyd i’ch paratoi am yrfa lwyddiannus yn addysgu. Mae’r rhaglen yn cwmpasu 36 wythnos, gydag oddeutu 12 wythnos o ddarpariaeth yn y brifysgol ac o leiaf 24 wythnos mewn ysgolion.

Cwricwlwm Craidd
Ein cwricwlwm craidd arloesol a achredwyd yn ddiweddar yw asgwrn cefn ein rhaglen Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA). Mae’n cynnwys:

Modylau Gorfodol: Mae’r modylau hanfodol hyn yn cwmpasu agweddau sylfaenol ar addysgu ac addysg.
Datblygu Sgiliau Ymchwil: Byddwch yn datblygu sgiliau ymchwil beirniadol sy’n hanfodol ar gyfer arfer adfyfyriol a datblygiad proffesiynol parhaus.
Llwybr Proffesiynol ar gyfer Statws Athro Cymwysedig (SAC): Mae’r llwybr hwn yn sicrhau eich bod yn bodloni’r safonau proffesiynol sy’n ofynnol ar gyfer SAC.
Llwybr Datblygu’r Gymraeg: Byddwch yn gwella’ch gallu i addysgu a chyfathrebu yn y Gymraeg, sgil gwerthfawr yn ein system addysg ddwyieithog.
Pontio: Gweithgareddau sy’n integreiddio damcaniaeth yn ddi-dor â chymhwyso’n ymarferol, gan atgyfnerthu eich profiad dysgu.
Profiadau dewisol: Dewiswch brofiad yn yr ysgol mewn maes o ddiddordeb i ddyfnhau eich arbenigedd a’ch sgiliau ymarferol.
Lleoliad Amgen: Cewch fewnwelediad drwy brofi lleoliadau addysg tu allan i ysgolion traddodiadol, megis amgylcheddau addysg arbennig.

Cylch 1 Astudiaethau Craidd: Y Dysgwr: pwy ydw i'n ei addysgu? (20 credydau)
Arwain y Dysgu: beth, sut a pham ydw i'n addysgu? 1 (30 credydau)
Y Gymraeg mewn Ymarfer Proffesiynol (10 credydau)
Astudiaethau Craidd: Dysgwyr, Ysgolion a Chymunedau: ble ydw i'n addysgu? (30 credydau)
Ymchwilio i'r Dysgu: beth, sut a pham ydw i'n addysgu? (30 credydau)

https://www.uwtsd.ac.uk/cy/rhaglen-chyrsiau/ol-raddedig/addysgu-addysg-tar/tar-uwchradd-saesneg-gyda-sac-llawn-amser-llawn

Assessment method

Mae’r rhaglen yn cynnig 60 credyd ar lefel Meistr a 60 credyd ar lefel Graddedig. Dyfernir y rhain wrth gwblhau asesiadau modwl yn llwyddiannus, sy’n cynnwys:

Astudiaethau achos
Portffolios
Cyflwyniad fideo
Prosiect Ymchwil
Mae pob aseiniad wedi’i gysylltu’n agos ag arfer ac wedi’u dylunio i gynnig cyfle i chi ddatblygu addysgu a dysgu sy’n cael effaith bositif ar blant a phobl ifanc.

Professional bodies

Professionally accredited courses provide industry-wide recognition of the quality of your qualification.

  • Education Workforce Council

Qualified teacher status (QTS)

To work as a teacher at a state school in England or Wales, you will need to achieve qualified teacher status (QTS). This is offered on this course for the following level:

  • Has qualified teacher status

How to apply

Entry requirements

Gradd Israddedig

Rhaid i ymgeiswyr feddu ar radd anrhydedd dda (o leiaf 2:2) mewn maes sy’n gysylltiedig â’r dewis bwnc uwchradd.

Cymwysterau TGAU

Gradd C (gradd 4 yn Lloegr) neu uwch mewn TGAU Saesneg – Iaith neu Cymraeg – Iaith neu safon gyfwerth.
Gradd C (gradd 4 yn Lloegr) neu uwch mewn TGAU Mathemateg neu TGAU Rhifedd neu safon gyfwerth.
Yn ogystal bydd angen i ddarpar athrawon sy’n astudio i addysgu mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg gael TGAU gradd C neu uwch mewn Cymraeg (Iaith Gyntaf).

Cymwysterau Lefel A/Galwedigaethol Lefel 3

Os nad oes gan ymgeiswyr radd israddedig mewn pwnc cwricwlwm, rhaid iddynt brofi eu bod wedi astudio’n llwyddiannus ar lefelau uwch.

Profiad Gwaith

Dylech fod yn ymwybodol o realiti bod yn athro ac o fywyd yn yr ystafell ddosbarth ac felly rydym yn gofyn am brofiad diweddar a pherthnasol o leoliad addysg uwchradd. Gall hyn fod trwy swydd neu drwy wirfoddoli mewn ysgol a ddylai fod am gyfnod o ddwy wythnos ar y lleiaf.

Bydd magu hyder mewn ystafell ddosbarth ysgol yn helpu i gryfhau eich cais ac yn sail feirniadol well ar gyfer eich datganiad personol. Hefyd, fe fydd yn eich paratoi at ein proses dethol ac yn rhoi peth profiad i chi y gallwch ei ddefnyddio yn eich cyfweliad.

Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)

Os cewch eich derbyn ar ein rhaglen, bydd rhaid ichi gael gwiriad clirio uwch DBS (Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd - CRB, Swyddfa Cofnodion Troseddol gynt) cyn gynted â phosibl. Mae ffi ynghlwm wrth y gwasanaeth a dylech sicrhau eu bod yn dewis y gwasanaeth ‘diweddaru’.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa weinyddol y TAR Uwchradd: 01792 482111 yn TeacherEd@pcydds.ac.uk

Am beth ydym ni’n chwilio?

Safbwynt positif o addysg fel ffordd i drawsnewid bywydau
Cymhelliant i fod yn athro rhagorol
Awydd empathig i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc
Agweddau positif at gyfiawnder, cynhwysiant ac ecwiti cymdeithasol
Gallu i weithio’n unigol ac fel rhan o dîm
Egni, brwdfrydedd a hyblygrwydd
Gwydnwch a dibynadwyedd
Agweddau ac ymddygiad proffesiynol
Parodrwydd i ddysgu gydol eich oes
Sut ydym ni’n dewis ein darpar athrawon?

Ansawdd y datganiad personol
Tystiolaeth o arbenigedd pwnc
Profiad diweddar a pherthnasol mewn lleoliad addysgol
Ansawdd y cyfweliad unigol
Perfformiad mewn profion dethol – e.e. llythrennedd, rhifedd a chymeriad

Additional entry requirements

Disclosure Barring Service (DBS) / Disclosure Scotland Check
Interview

International entry requirements

Visa and funding requirements

If you are not from the UK and you do not already have residency here, you may need to apply for a visa.

For courses of more than six months’ duration you will require a Student visa.

International students who require a Student visa should apply for our full-time courses as these qualify for Student visa sponsorship.

For full information read our visa application and guides.

Please note students receiving US Federal Aid are only able to apply for in-person, on-campus programmes which will have no elements of online study. https://www.uwtsd.ac.uk/apply/international-applications/immigration-visas

Fees and funding

Tuition fees

Per year tuition fees

LocationFeeYear

Tuition fee status depends on a number of criteria and varies according to where in the UK you will study. For further guidance on the criteria for home or overseas tuition fees, please refer to the UKCISA website.

Additional fee information

No additional fees or cost information has been supplied for this course, please contact the provider directly.

Like this page