UCAS Code: 3D2Z
TAR Uwchradd - Gweithgareddau Awyr Agored (GAA) (gyda SAC)
Rhannwch eich brwdfrydedd am yr awyr agored gyda'r rhaglen gweithgareddau awyr agored TAR, yr unig gyfle i ennill TAR gyda SAC mewn addysg awyr agored ac antur yn y DU. Gyda pharc cenedlaethol Eryri ar garreg ein drws, lleoliad campws yn llythrennol ar lannau’r Fenai, dim ond eich dychymyg fydd yn cyfyngu ar eich cyfleoedd i addysgu a dysgu yn yr awyr agored. Bydd cyfuniad o ddarlithoedd, seminarau a llawer o sesiynau profiad ymarferol yn rhoi dealltwriaeth fanwl i chi o sut mae plant a phobl ifanc yn dysgu yn yr awyr agored ac yn rhoi’r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i fod yn athro arloesol yn yr awyr agored.
Yma ym Mangor, byddwn yn sicrhau bod gennych y rhinweddau sydd eu hangen nid yn unig i fod yn athro addysg awyr agored ac antur rhagorol, ond hefyd yn addysgwyr awyr agored (gan symud y tu hwnt i hyfforddiant awyr agored), gyda'r gallu i gyfrannu at y cwricwlwm iechyd a lles ehangach, boed hynny mewn canolfan addysg awyr agored breswyl neu addysgu mewn ysgol.
Rydym hefyd yn cynnig cyfleoedd unigryw i ddatblygu eich sgiliau addysgu ym maes arall o'r cwricwlwm gyda'n rhaglen dull ar y cyd lle gallwch gyfuno llawer o'n pynciau TAR eraill gyda Gweithgareddau Awyr Agored. Os yw eich gradd mewn pwnc nad yw'n gysylltiedig â'r awyr agored ond bod gennych brofiad sylweddol o weithio yn yr awyr agored efallai y bydd y llwybr llawn her ond buddiol hwn yn addas i chi. Mae'r rhaglen Gweithgareddau Awyr Agored yn gweithredu fel dull ar y cyd neu lwybr un dull yn dibynnu ar eich gradd a'ch profiad.
Pam astudio gyda ni?
• Pa le gwell i astudio addysg awyr agored ac antur nag ar gyrion parc cenedlaethol Eryri gydag arfordir Ynys Môn sydd gyda’r gorau yn y byd ar garreg ein drws. Y rhaglen Gweithgareddau Awyr Agored yw’r cwrs addysg athrawon addysg awyr agored sydd wedi cael ei gynnar hiraf yn y DU a dyma’r unig gwrs erbyn hyn sy’n cynnig SAC trwy TAR mewn addysg antur ac awyr agored.
• Mae storfa o offer ardderchog yn golygu y gallwch weithio tuag at wobrau corff llywodraethu cenedlaethol heb fod angen buddsoddi'n drwm mewn cychod, beiciau, offer dringo neu offer ac mae llawer o gyfleoedd i gyfoethogi'ch astudiaethau trwy fynd ar deithiau tramor a sesiynau datblygu sgiliau.
• Bydd tiwtoriaid profiadol ac ymchwilwyr a gydnabyddir yn rhyngwladol yn dysgu’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i fod yn addysgwyr y dyfodol. Bydd profiadau ysgol arweiniol a chanolfan breswyl gyda mentoriaid medrus a phrofiadol iawn, ynghyd â lleoliadau mewn ysgolion a chanolfannau addysg awyr agored preswyl yn cefnogi eich datblygiad tuag at Statws Athro Cymwysedig.
• Cewch gyfle i astudio tra'n ymdrochi yn niwylliant, iaith ac amgylchedd Cymru, yma ym mhrydferthwch gogledd Cymru. Cewch gefnogaeth broffesiynol i ddysgu Cymraeg p'un a ydych yn ddechreuwr llwyr neu'n rhugl yn yr iaith.
Gallwch ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf.
Caiff y TAR hwn gyda SAC ei gydnabod ledled Cymru a Lloegr ac yn aml gellir ei drosglwyddo ymhellach na hynny i fynd i mewn i'r proffesiwn dysgu. Dylai'r rhai sy'n dymuno dysgu y tu allan i Gymru a Lloegr wirio gyda Chorff Proffesiynol Athrawon y wlad dan sylw bod Statws Athro Cymwysedig yn cael ei gydnabod yno ac yn drosglwyddadwy.