Trwy ddewis astudio’r Gymraeg a Mathemateg ym Mhrifysgol Aberystwyth byddwch yn perthyn i ddwy adran sydd wedi’u hen sefydlu a chanddynt dros 100 mlynedd o brofiad o ymchwilio a dysgu’r ddau egwyddor ond sydd hefyd yn addysgu’n ddeinamig mewn modd sy’n procio’r meddwl. Os oes gennych ddiddordeb mewn datblygu ac ymchwilio i drysorau pellach ym myd Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg a chanfod adnabyddiaeth a dadansoddiad o siapiau a phatrymau trwy gasglu a chyfrifo data, dyma’r radd i chi. Canfyddwch ddisgyblaeth sy’n cyfuno adnabod a dadansoddi siapiau a phatrymau trwy gasglu a chyfrifo data.
Dysgir Mathemateg yn Aberystwyth ers 1872, felly mae gan yr adran dros 140 o flynyddoedd o ragoriaeth dysgu, ac yn cyflogi darlithwyr sy’n addysgwyr ymroddedig ac yn ymchwilwyr sy’n cael eu cydnabod yn rhyngwladol. Bydd gradd mewn Mathemateg yn agor ystod eang o lwybrau gyrfa i chi, ac mae’r radd hon wedi’i hachredu gan y Sefydliad Mathemateg a’i Chymwysiadau (IMA), sef prif gymdeithas ddysgedig a phroffesiynol y DU ar gyfer mathemateg, a fydd yn cyfrannu’n uniongyrchol at gael eich cydnabod yn Fathemategydd Siartredig.
Mae amrywiaeth hynod ddiddorol o cyrsiau unigol ar gael yn yr Adran, sy’n adlewyrchu diddordebau ymchwil diweddaraf ein darlithwyr: hanes ein llên a llenyddiaeth gyfoes, theori lenyddol, llenyddiaeth plant, llên gwerin, astudiaethau menywod ac astudiaethau rhywedd, ysgrifennu creadigol a sgriptio, cyweiriau a thafodieithoedd y Gymraeg, yr iaith mewn cyd-destunau proffesiynol, cyfieithu ac addasu, y Gymraeg a'r cyfryngau, cymdeithaseg yr iaith Gymraeg.
Iaith Gyntaf ac Ail Iaith: mae’r cynllun gradd hwn yn cynnwys llwybrau Ail Iaith ac Iaith Gyntaf. Mae’r Adran yn cynnig nifer o fodiwlau trwy gyfrwng y Gymraeg.
Y Llyfrgell Genedlaethol Cymru: Yn ogystal â’r adnoddau helaeth sydd gan y Brifysgol, mae’r Adran ar stepen drwys y Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Adran sy’n Agorau Drysau: Mae llu o bosibiliadau ar gael ar ôl graddio yn y Gymraeg o Brifysgol Aberystwyth.
Bywyd Cymdeithasol Cymraeg Byrlymus:Yn Aberystwyth gallwch fyw drwy gyfrwng y Gymraeg a mwynhau'r elfen gymdeithasol sydd i'r gymuned Gymraeg yma. Ymaelodwch ag UMCA, dewch i fyw yn neuadd Pantycelyn-Penbryn, ewch ar deithiau rygbi, ymunwch â chôr Pantycelyn, ac ewch i nosweithiau megis Gwobrau'r Selar.
Wrth gwblhau’r radd hon, byddwch wedi ennill y sgiliau isod:
-
Sgiliau ymchwilio a dadansoddi data;
-
Sgiliau mathemategol a chyfrifiadurol uwch;
-
Sgiliau datrys-problemau a meddwl creadigol effeithiol;
-
Sylfaen drylwyr mewn technoleg gwybodaeth;
-
Gallu i weithio’n annibynnol neu fel rhan o dîm;
-
Sgiliau Rheoli amser a threfnu;
-
Gallu i gyfathrebu’n eglur yn ysgrifenedig ac ar lafar;
-
Cymell eich hun a dibynnu arnoch eich hun.
Mae ein graddedigion wedi cael swyddi yn y sectorau isod:
-
Dadansoddi ystadegol ac ystadegaeth gyfrifiadurol;
-
Dysgu;
-
Peirianneg Awyrenegol;
-
Cyfrifeg a bancio;
-
Dadansoddi Risg a gwaith actwaraidd;
-
Rheolaeth ariannol a dadansoddi buddsoddiadau;
-
Technoleg gwybodaeth.