Mae hon yn rhaglen pedair blynedd sy'n cynnwys blwyddyn o astudiaeth sylfaenol ar ein campws yn Llandaf ac yn arwain yn uniongyrchol at y cwrs gradd, a fydd yn cael ei addysgu ar ein campws yng Nghyncoed. Mae ein blwyddyn sylfaen yn cynnig y cyfle i ddatblygu eich sgiliau, eich gwybodaeth a'ch hyder, cyn i chi symud ymlaen i gam un eich gradd anrhydedd. Cyflwynir y flwyddyn sylfaen drwy gyfrwng y Saesneg gyda myfyrwyr yn gallu cyflwyno aseiniadau a sefyll arholiadau drwy gyfrwng y Gymraeg. Gellir cynnal cyfarfodydd gyda thiwtoriaid personol drwy gyfrwng y Gymraeg hefyd.
Gweithio gyda phlant o’u genedigaeth hyd at wyth oed a’u teuluoedd.
Ar y radd hon, byddwch yn dod yn ymarferydd blynyddoedd cynnar medrus iawn. Byddwch yn ennill Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar (SYBC) cymwysedig, gan ennill profiad seiliedig ar waith ymarferol wedi’i gyfuno â gwybodaeth ddamcaniaethol a pholisi sy’n ofynnol ar gyfer ymarfer effeithiol yn y blynyddoedd cynnar, gan gynnwys rheoli lleoliadau blynyddoedd cynnar.
Rydym yn cynnig rhaglen radd BA (Anrh) arloesol mewn Addysg Blynyddoedd Cynnar ac Ymarfer Proffesiynol sy’n cynnig ystod amrywiol o fodiwlau ymarfer a theori perthnasol.
Elfen sylfaenol o’r radd arloesol hon yw’r profiad ymarferol wedi’i asesu y byddwch yn ei gwblhau er mwyn ennill SYBC. Mae hyn yn cynnwys lleoliad yn ystod pob blwyddyn o astudio mewn amrywiaeth o leoliadau perthnasol megis ystafelloedd dosbarth y Cyfnod Sylfaen, meithrinfeydd preifat, canolfannau plant ac ysgolion cynradd.
Byddwch yn treulio amser yn ein darpariaeth Ysgol Goedwig ar y campws, lle byddwchyn gallu cael profiad uniongyrchol o gyfleoedd dysgu awyr agored i blant y blynyddoeddcynnar. Wrth gwblhau'r radd, byddwch hefyd yn gallu cyflawni cymwysterau ychwanegol, gan wella eich sgiliau cyflogadwyedd. Dyma'r Wobr Lefel 2 Chwarae Cymru mewn Ymarfer Gwaith Chwarae (L2APP) a'r Dystysgrif Lefel 5 mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth sy'n cael ei chymeradwyo gan y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth.
Yn ystod y radd, cewch eich addysgu gan academyddion gweithgar ym maes ymchwil ac arbenigwyr blynyddoedd cynnar, gan gynnwys darlithwyr gwadd o leoliadau cysylltiedig, megis Chwarae Cymru a Tŷ Hafan, i ddarparu cyfleoedd addysgu a dysgu ychwanegol.
Trwy ennill gradd sydd ar flaen y gad o ran newidiadau yn y sector, bydd eich cymhwyster yn cael ei werthfawrogi’n fawr gan ddarpar gyflogwyr yn y maes hwn. Mae’r radd hon hefyd yn darparu sylfeini cadarn ar gyfer ystod o yrfaoedd cysylltiedig fel gwaith cymorth i deuluoedd, iechyd a gofal cymdeithasol a gwaith cymunedol.
Mae dau lwybr astudio ar gael: