Cardiff University - open day event
26 Jun 2026, 08:00
Cardiff

Mae nifer o fyfyrwyr o’r farn bod astudio rhaglen gydanrhydedd yn brofiad gwerth chweil gan eu bod yn gallu gweld yr hyn sy'n debyg ac yn wahanol rhwng y ddau bwnc. Drwy gyfuno’r Gymraeg ac Addysg, byddwch yn ennill amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy a gwybodaeth a fydd yn fuddiol ar gyfer eich dyfodol.
CYMRAEG
Mae cwrs y Gymraeg yn berthnasol i’r Gymru gyfoes ac yn cael ei ddysgu gan Ysgol sydd wedi’i chydnabod am ansawdd ac effaith ei hymchwil. Nod y cwrs yw cynhyrchu graddedigion sydd â dealltwriaeth drwyadl (yn academaidd ac yn ymarferol) o’r iaith Gymraeg, ei llenyddiaeth a’i diwylliant, lefel uchel o sgiliau ieithyddol ar lafar ac yn ysgrifenedig, a sgiliau cyflogadwyedd a chreadigol datblygedig sy’n berthnasol i’r Gymru fodern.
Mae’n cynnig modiwlau craidd a dewisol i roi sylfaen ichi o ran iaith a llenyddiaeth, yn ogystal â chyfle i arbenigo mewn meysydd sydd o ddiddordeb personol neu o ran eich gyrfa.
ADDYSG
Mae ein gwaith addysgu ar Addysg wedi ei seilio ar ein hymchwil ym myd addysg a’r datblygiadau diweddaraf o ran polisi ac ymarfer, gan gwmpasu agweddau ar ddiwylliant a hunaniaeth, plentyndod ac ieuenctid, rhywedd ac ethnigrwydd, a chyfiawnder cymdeithasol a chynhwysiad.
Mae modiwlau craidd wedi eu hanelu at ddatblygu dealltwriaeth ddofn o gyd-destunau cymdeithasol, hanesyddol, gwleidyddol, economaidd a datblygiadol addysg – yng Nghymru, y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.
Fel myfyriwr cydanrhydedd, fe welwch fod meysydd a safbwyntiau yn aml sy'n cysylltu pynciau, boed yn ddadansoddiad beirniadol, yn gyd-destunau hanesyddol neu'n ymchwil diweddar.
Mae’r ddwy ysgol sy’n gysylltiedig â chyflwyno’r radd hon yn cynnig cwrs heriol o fodiwlau, sydd wedi’i gefnogi gan awyrgylch cyfeillgar a chysylltiadau rhagorol rhwng y myfyrwyr a’r staff.
NODYN: Fel arfer, mae'r radd gydanrhydedd hon yn agored dim ond i ddarpar fyfyrwyr sydd wedi astudio’r Gymraeg fel iaith gyntaf ar gyfer Safon Uwch. Os nad ydych wedi gwneud hynny ond eich bod yn teimlo bod eich Cymraeg o safon cyfatebol, anfonwch e-bost at cymraeg@caerdydd.ac.uk.
Nodweddion nodedig
CYMRAEG
Mae nodweddion nodedig y cwrs yn cynnwys:
Y cyfle i ddilyn cwrs gradd sy’n datblygu sgiliau sy’n berthnasol i’r byd academaidd ac i’r gweithle
Modiwl craidd sy’n canolbwyntio ar sgiliau cyflogadwyedd, ac sy’n cynnig cyfnod o brofiad gwaith
Ystod o fodiwlau craidd a dewisol sy’n astudio’r iaith, ei llenyddiaeth a’i diwylliant, yn ogystal â chyfle i arbenigo mewn meysydd sydd o ddiddordeb personol neu o ran eich gyrfa
Y pwyslais ar sgiliau ymchwil ymarferol, a fydd o fudd i chi drwy gydol eich gyrfa
Y pwyslais ar ddysgu annibynnol mewn awyrgylch cefnogol
Y profiad o gael eich addysgu gan ddarlithwyr sy’n weithredol ym myd ymchwil, ac sy’n seilio eu haddysgu ar ymchwil
Y profiad o gael eich addysgu gan staff a fydd yn eich adnabod fel unigolyn
ADDYSG
Er nad yw hwn yn gymhwyster addysgu, mae'n gyfle i astudio addysg mewn ffyrdd sy'n mynd y tu hwnt i ffocws ar ymarfer addysgu. Byddwch yn astudio’r dadleuon ehangach ynghylch addysg, gan osod y sylfaen ar gyfer amrywiaeth eang o yrfaoedd.
Mae ein cysylltiadau agos â llunwyr polisi, yn ogystal ag ysgolion, colegau a sefydliadau addysg a hyfforddiant eraill lleol, yn darparu cyfleoedd ichi ymgysylltu o ddifrif ag addysgwyr ac arferion. Mae nodweddion unigryw'r cwrs yn cynnwys:
Y cyfle ichi ddysgu mewn Ysgol a gyrhaeddodd y 3ydd safle yn y Deyrnas Unedig o ran ansawdd ymchwil mewn cymdeithaseg a’r 5ed safle o ran addysg yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014 (REF)
Ymwneud â staff sy’n weithredol ym myd ymchwil ac addysgu
Y pwyslais ar ddysgu’n annibynnol mewn amgylchedd a arweinir gan ymchwil
Yr amrywiaeth o fodiwlau sydd ar gael mewn Ysgol amlddisgyblaethol a rhyngddisgyblaethol
Y cyfle i astudio dramor
This section shows the range of grades students (with UK A-Levels or Pearson BTEC Level 3 National Extended Diplomas) who received offers were previously accepted with (learn more). It is designed to support your research but does not guarantee whether you will or won't get a place. Admissions teams consider various factors, including interviews, subject requirements, and entrance tests. Check all course entry requirements for eligibility.
We are unable to show previous accepted grades for this course. This could be because the course is new, it's a postgraduate course, there isn't enough historical data, or the provider has opted out of sharing their entry grades data for this course - learn more.
Operated by the Office for Students
Employment after 15 months (Most common jobs)
Go onto work and study
The number of student respondents and response rates can be important in interpreting the data – it is important to note your experience may be different from theirs. This data will be based on the subject area rather than the specific course. Read more about this data on the Discover Uni website.
Choose a specific option to see funding information.
Course optionsMae llawer o ysgoloriaethau ar gael i ddarpar fyfyrwyr. Ewch i https://www.cardiff.ac.uk/cy/study/undergraduate/funding/scholarships i gael rhagor o wybodaeth.
PO Box 921
Cardiff
CF10 3XQ
Email:admissions@cardiff.ac.uk
Phone:029 2087 9999