Aberystwyth University Open Day - July 4 2026
4 Jul 2026, 08:00
Aberystwyth

Mae datganoli Llywodraeth Cymru a chyflwyno Deddf yr Iaith Gymraeg wedi golygu bod y gallu i siarad a deall Cymraeg at lefel uchel a deallusol yn ddeniadol i gyflogwyr. Wrth i gyfreithiau Cymreig gynyddu, felly hefyd mae’r galw am gyfreithwyr sydd â’r gallu i drin a thrafod y gyfraith trwy gyfrwng y Gymraeg ac o fewn cyd-destun Cymreig.
Bwriad y rhaglen hon yw paratoi myfyrwr ar gyfer y Gymru gyfoes a thu hwnt.
Mae’r Gyfraith yn bwnc amrywiol sy’n esblygu o hyd wrth iddo ymateb i ddatblygiadau cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol. Mae’n rheoli pob agwedd o’n bywyd dyddiol, o anghydfodau rhwng cymdogion a gwarchod yr amgylchedd i faterion cyflogaeth a darpariaeth gofal iechyd. Mewn cymdeithas fodern, ddemocrataidd, mae’r gyfraith yn bodoli i sicrhau cyfiawnder.
Mae’r elfen Cymraeg Proffesiynol yn cael ei ddysgu gan Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd. Ar y cwrs yma byddwch yn datblygu sgiliau sy’n ymwneud â defnyddio’r iaith Gymraeg yn hyderus mewn ystod eang o gyd-destunau proffesiynol ac o fewn y gweithle. Byddwch yn cael eich dysgu gan staff sydd â phrofiad helaeth mewn meysydd fel cyfieithu, ysgrifennu creadigol, astudio a hybu treftadaeth, golygu a chyhoeddi.
Pam astudio LLB Y Gyfraith / Cymraeg Professiynol ym Mhrifysgol Aberystwyth?
Caiff y rhaglen hon ei haddysgu ar y cyd gan Adran y Gyfraith a Throseddeg a’r Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd.
Yn ogystal â'r modiwlau cyfraith sylfaenol, sy'n cynnwys y rhai sydd eu hangen er mwyn dod yn gyfreithiwr neu'n fargyfreithiwr yng Nghymru a Lloegr (gan ennill 'Gradd Gymhwyso yn y Gyfraith'), rydym hefyd yn cynnig amrywiaeth o fodiwlau dewisol sy'n cwmpasu pynciau cyfreithiol traddodiadol a chyfoes.
Gellir astudio nifer o fodiwlau’r Gyfraith a Throseddeg trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae Adran y Gyfraith a Throseddeg yn cynnig cyfleoedd eang i ddatblygu sgiliau cyfathrebu. Mae’r Gymdeithas Ymryson yn agored i holl fyfyrwyr yr adran ac mae’n rhoi cyfle i aelodau ddatblygu chystadleuaeth ffug lys barn.
This section shows the range of grades students (with UK A-Levels or Pearson BTEC Level 3 National Extended Diplomas) who received offers were previously accepted with (learn more). It is designed to support your research but does not guarantee whether you will or won't get a place. Admissions teams consider various factors, including interviews, subject requirements, and entrance tests. Check all course entry requirements for eligibility.
Students aged 17/18 who applied to this course were offered a place.
See how students with your grades have been accepted onto this course in the past.
Operated by the Office for Students
Employment after 15 months (Most common jobs)
Go onto work and study
The number of student respondents and response rates can be important in interpreting the data – it is important to note your experience may be different from theirs. This data will be based on the subject area rather than the specific course. Read more about this data on the Discover Uni website.
Choose a specific option to see funding information.
Course optionsMae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig pecyn gwerthfawr o ysgoloriaethau a bwrsariaethau i gynorthwyo myfyrwyr. Mae ein cystadleuaeth Ysgoloriaeth Mynediad hirsefydlog yn golygu y gallech gael hyd at £2,000 y flwyddyn tuag at eich costau byw a’ch costau astudio. Gallwch gyfuno Ysgoloriaeth Mynediad gydag unrhyw un, neu â’n holl wobrau eraill, i wneud eich pecyn ariannol yn fwy gwerthfawr. Mae’n ein gwobrau’n cynnwys Bwrsariaeth Aberystwyth, sy’n dibynnu ar brawf modd, yr Ysgoloriaethau Chwaraeon a Cherddoriaeth, bwrsariaethau i rai sy’n gadael gofal/gofalwyr ifainc/myfyrwyr dieithredig ac ystod o wobrau adrannol-benodol. Ewch i’n gwefan i gael y manylion llawn.
Penglais
Aberystwyth
Ceredigion
Wales
SY23 3FL
Email:law@aber.ac.uk
Phone:+44 (0)1970 622712
Fax: +44 (0)1970 622729
Email:cymraeg@aber.ac.uk
Phone:+44 (0)1970 622137
Email:admissions@aber.ac.uk
Phone:01970 622021