Astudio yn y Gymraeg

Gall astudio addysg uwch yn y Gymraeg gynnig nifer o ddewisiadau gyrfa i chi – yng Nghymru a thu hwnt. Mae mwy a mwy o sefydliadau’n sylweddoli manteision cyflogi graddedigion sy’n gallu cyfathrebu yn y Gymraeg a’r Saesneg, ac os mai’r Gymraeg yw eich iaith gyntaf neu eich ail iaith, mae digonedd o bosibiliadau ar eich cyfer.

Cyfleon pan fyddwch yn astudio yn Gymraeg

  • Mwynhau astudio mewn iaith ddynamig ac amrywiol ac iddi statws swyddogol yng Nghymru.
  • Datblygu nifer o’r sgiliau y mae eu hangen ar gyfer y byd gwaith.
  • Astudio ar y cyd â myfyrwyr Cymraeg o brifysgolion ledled Cymru â’r platfform e-ddysgu pwrpasol, y Porth.
  • Erbyn hyn, mae gan nifer o brifysgolion ofodau dysgu cyfrwng Cymraeg – sy’n wych ar gyfer cysylltu trwy gyswllt fideo â ffrindiau a myfyrwyr sy’n astudio pynciau tebyg mewn prifysgolion eraill.

Beth sydd ar gael?

Mae cyrsiau cyfrwng Cymraeg wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf – mewn meysydd academaidd traddodiadol yn ogystal â phynciau mwy galwedigaethol.

Mae dros 500 o gyrsiau i ddewis ohonynt – y Gyfraith, Dylunio, Hanes, Busnes, Ffiseg a Nyrsio i enwi rhai’n unig.

  • Astudio rhan neu eich holl radd yn y Gymraeg.
  • Dangos eich sgiliau iaith Gymraeg i gyflogwyr trwy Tystysgrif Sgiliau Iaith Gymraeg y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
  • Yn ogystal, gallech fod yn gymwys i gael ysgoloriaeth gwerth hyd at £3,000.

Felly, os ydych yn ystyried astudio yng Nghymru, edrychwch ar y dewisiadau o ran astudio yn y Gymraeg. Pwy a ŵyr, gallai astudio yn y Gymraeg eich helpu i ehangu eich gorwelion a gall rhoi mantais gystadleuol i chi yn y gweithle.

Chwilotydd Cyrsiau'r Coleg Cymraeg – pwrpas Chwilotydd Cyrsiau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yw cynorthwyo myfyrwyr i chwilio am gyfleoedd astudio cyfrwng Cymraeg mewn prifysgolion ar draws Cymru a darganfod pa gyrsiau sy'n gymwys ar gyfer ysgoloriaethau israddedig y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Mae'r Ap Chwilotydd Cyrsiau ar gael ar declynnau iOS ac Android – iPhone ac iPad.