Skip navigation

Sut i ymgeisio

Os ydych yn gwneud cais i ddarparwyr cyrsiau Cymraeg, gallwch ddewis llenwi eich cais i gyd yn y Gymraeg.

Ymgeisio yn y Gymraeg

Gallwch ddewis cwblhau eich cais yn Gymraeg. I wneud hyn:

  • Mewngofnodwch i'ch Hwb UCAS, cliciwch ar eich dewisiadau a diweddarwch eich gosodiadau iaith i'r Gymraeg, ar ôl hyn bydd y cais a'r gohebydd gweithredol a anfonir atoch yn Gymraeg.

Os ydych chi'n gwneud cais i ddarparwyr Cymraeg a rhai nad ydynt yn Gymraeg, rydyn ni'n awgrymu eich bod chi'n cwblhau'r cais UCAS mewn un iaith ac yn cyflwyno fersiwn wedi'i chyfieithu yn uniongyrchol i'r prifysgolion neu'r colegau rydych chi'n gwneud cais iddyn nhw. Byddem hefyd yn cynghori eich bod yn cysylltu â darparwyr y cwrs cyn cyflwyno'ch cais.


Tracio eich cais

Ar ôl i chi anfon eich cais, gallwch dracio cynnydd eich cais ar-lein. Pan fydd pob darparwr cwrs yn penderfynu, byddwn yn rhoi gwybod i chi bydd rhywbeth wedi newid o ran eich cais er mwyn i chi ei wirio.
  • Os cewch gynnig gan un o’ch darparwyr cyrsiau dewisedig, gallwch fewngofnodi a darllen eich llythyr cynnig yn y Gymraeg neu’r Saesneg.
  • Gallwch hefyd ddefnyddio Track i dderbyn neu wrthod cynigion, yn ogystal â newid manylion personol megis eich cyfeiriad, rhif ffôn a'ch cyfeiriad e-bost.